elusen DU Cofrestredig: 1162558 | Saesneg

Amdanom ni

MÔN-SAR

MÔN-SAR

Pwy yr ydym

a beth yw ein gwaith

MônSAR yw tim chwilio ac achub iseldir Ynys Mon, yma i gefnogi ein cymunedau lleol ac ymwelwyr i’r ynys.

Mae MônSAR yn dim achub gweithredol sy’n perthyn i Lowland Rescue™ ac yn rhan o gymdeithas timau chwilio ac achub cenedlaethol sy’n gweithredu mewn ardaloedd iseldir ar draws y Deyrnas Unedig.

MônSAR yw’r tim chwilio ac achub iseldir cyntaf yng Nghymru sydd yn ymgymeryd a chwiliadau mewn ardaloedd trefol ac iseldir (hyd at 600 medr). Yn y gorffennol bu chwiliadau o’r math dan gyfrifoldeb Timau Achub Mynydd cyfagos yn Eryri ond mae timau fel hyn dan bwysau gwaith cynyddol. Pan greuwyd y tim yn 2015 golygodd hyn fod yna dim chwilio ac achub pwrpasol ar gyfer galwadau mewn ardaloedd di-fynyddig ac iseldir ar yr ynys. Mae MônSAR yn derbyn galwadau oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru ond mae’r tim hefyd yn cefnogi asiantaethau proffesiynol a gwirfoddol eraill ar yr ynys a thirwedd Gogledd Cymru fel Goruchwylwyr y Glannau, RNLI, Achub Ogof, ein Timau Achub Mynydd cyfagos a chwn chwilio SARDA Cymru.

Gweithredol ers 2018

Prif natur ein galwadau allan yw i chwilio am unigolion archolladwy, felly mae ein haelodau gwirfoddol wedi eu hyfforddi i’r safonau uchaf mewn technegau chwilio ar gyfer categoriau o bersonau coll (er enghraiift – digalondid ac iselder, dementia, awtistiaeth neu achosion iechyd meddwl). Rydym hefyd yn cefnogi gwasanaethau chwilio ac achub eraill ar y tir mawr os bydd angen.

Gwybodaeth Lleol

Yn atodol i gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru trwy gario stretsier pan fydd parameddygon ambiwlans angen cymorth ar dir anwastad, byddwn hefyd yn derbyn galwad allan i helpu cerddwyr sydd wedi brifo, gan asesu’r anafiadau a chario’r claf i fan diogel os bydd angen. Oherwydd ein bod ar Ynys Mon a bod y mwyafrif o’n haelodau yn byw yn lleol, rydym yn adnabod yr ardal a’i dirwedd yn dda ac mae hyn yn ein galluogi ni i ddarganfod cerddwyr sydd efallai ar goll yn y tywyllwch.

Galwadau Allan

Beth sydd yn digwydd pan gelwir y tim allan i chwilio?

Rhoddion a Noddi

Sut i’n helpu ...

Os hoffech wneud rhodd neu os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r tim mewn unrhyw ffordd, clicliwch ar ‘Sut in helpu’ page.  Neu gellwch roi rhodd yma:

Tecstiwch MONSAR 5 i 70085 i roi rhodd o £5 + cost anfon neges arferol. Neu, gellwch roi unrhyw gyfraniad o swm cyfan hyd at £20 (MONSAR 1 - MONSAR 20).

DONATE