elusen DU Cofrestredig: 1162558 | Saesneg

Galwadau Allan

MÔN-SAR

MÔN-SAR

Beth sy’n digwydd

pan mae’r tim yn debyn galwad-allan i chwilio?

Mae’r broses yn dechrau gyda rhywun yn galw Heddlu Gogledd Cymru am help.Gall hyn fod yn unigolyn neu corff fel Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Gall yr Heddlu gychwyn chwiliad ac ymholiadau ei hunain yn gyntaf cyn byddant yn dod i benderfyniad i alw’r tim allan am gymorth. Dyma’r adeg pan fydd yr Heddlu yn cysylltu gyda’n Cynllunydd Gweithgareddau Chwilio sydd ‘ar alwad’.

Bydd ein Cynllunwyr Chwilio yn asesu’r alwad allan, creu cynllyn cychwynol ac anfon neges ‘Galwad Allan’ (trwy neges destun ac ebost) i’r holl aelodau’r tim i gyfarfod mewn lleoliad penodol mor fuan a phosib. Bydd llawer o’n haelodau yn dod yn syth o’u gwaith neu trwy adael trefniadau teuluol.

Bydd ein cerbydau rheoli ac offer (sydd fel arfer wedi parcio yn Swyddfa’r Heddlu) yn cael eu casglu a’u gyrru allan, a bydd Pwynt Rheoli Digwyddiad yn cael ei sefydlu trwy ddefnyddio systemau cyfathrebu radio, meddalwedd digidol ac offer cyfrifiadurol arbennigol i gynllunio, cydlynnu a chofnodi digwyddiad fel mae’n datblygu. Bydd Ymgynghorydd Chwilio yr Heddlu (PolSA) o Heddlu Gogledd Cymru yn cynorthwyo trwy gydweithio a’r Rheolwyr Chwilio yn ein Cerbyd Rheoli Digwyddiad.

O’r fan yna, bydd ein gwirfoddolwyr hyfforddedig a chymwys yn cael eu trefnu fesul timau o bedwar (dan ofal Arweinydd Tim) ac yn cychwyn y chwiliad mewn ardaloedd a adnabyddir fel y mannau mwyaf tebygol i’r person coll fod.

Byddwn yn gweithredu ym mhob tywydd, nos neu dydd, ac er fod pob aelod yn gymwys mewn Cymorth Cyntaf, mae rhai yn meddu ar gymhwyster lefel uwch fel Ymatebwyr Cyntaf Lowland Rescue.

Bydd y timau yn parhau i chwilio mewn ardaloedd penodol nes:

  • dod o hyd i’r person coll
  • bydd yr Heddlu yn galw’r chwilio i ben (weithiau oherwydd gwybodaeth
    diweddar) neu
  • bydd yr Heddlu yn gohirio’r chwilio oherwydd y tywydd neu diffyg golau gan wneud yr amodau chwilio yn anniogel.

Mae pob parti chwilio yn barod ac wedi paratoi i weithio hyd at 8 awr cyn cael newid trosodd ond nid yw’n anarferol i fod allan yn chwilio am hyd at 12 awr cyfan. Yn aml iawn bydd y galwad allan yn digwydd yn hwyr yn y nos neu’n gynnar iawn y bore, unwaith fydd yr Heddlu wedi ceisio gwneud popeth y gallant ei hunain.

Mae’r tim wedi ymateb i nifer o alwadau-allan ers dod yn weithredol yn Haf 2018. Rydym wedi llwyddo i uno personau coll gyda’u teuluoedd a ffrindiau, ac mewn amgylchiadau trist, wedi medru dod a’r ymchwiliad i derfyn ar ran y teuluoedd. Mae Chwilio ac Achub angen ymroddiad uchel ond gall hefyd roi boddhad. Mae pawb yn falch o fod yn aelod o’r tim a chynnig gwasanaeth a chefnogaeth gwerthfawr i’n cymunedau a dyna pam rydym yn wirfoddolwyr.

Adborth

Heb yn ddisgwyl, byddwn weithiau yn derbyn adborth gan bobl buom yn achub ac mae’n bleser clywed eu bod yn iach ac ar wella. Mewn un enghraifft, ar ol achub cerddwr gydag anaf, cawsom adborth bendigedig gan ei ffrindiau trwy wefan cymdeithasol a braf oedd ei dderbyn.

These wonderful people rescued one of our rambling group who had a fall and damaged his knee on a castle in a difficult to access area near Beaumaris. They all gave up what they were doing to come to the rescue, assessed and safely got him down from the castle and stretchered him at least 0.5 mile to a road to await an ambulance. Well done – brilliant team.

Mae’r tim wedi derbyn cydnabyddiaeth oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru; derbyniwyd ganmoliaeth oddi wrth Uwcharolygydd am ddangos proffesiynoldeb ac ymroddiad yn Rhagfyr 2019 wrth gydweithio gyda’r Heddlu i ddarganfod pobl archolladwy.

Rhoddion a Noddi

Sut i’n helpu ...

Os hoffech wneud rhodd neu os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r tim mewn unrhyw ffordd, clicliwch ar ‘Sut in helpu’ page.  Neu gellwch roi rhodd yma:

Tecstiwch MONSAR 5 i 70085 i roi rhodd o £5 + cost anfon neges arferol. Neu, gellwch roi unrhyw gyfraniad o swm cyfan hyd at £20 (MONSAR 1 - MONSAR 20).

DONATE